top of page
wall-4571328_1920.jpg

Amdanon ni / About Us

Blaenoriaeth y Cylch yw hapusrwydd a diogelwch pob plentyn. Cynnigwn y gofal gorau bosib mewn awyrgylch cyfeillgar a chartrefol, gan annog a chroesawu plant o bob cefndir. Yn y Cylch Meithrin bydd cyfle i’ch plentyn fwynhau cwmni plant eraill a dysgu trwy chwarae dan ofal staff cymwys, cyfeillgar a brwdfrydig.

Darparwn amgylchedd ysgogiadol a magwriaethol, trwy adeiladu sylfaen gadarn sy’n sicrhau fod y plant yn symud ymlaen yn hyderus i’r cyfnod nesaf yn eu bywydau.  Er mwyn darparu Addysg Blynyddoedd Cynnar dilynir y Cwricwlwm i Gymru, mae'r cwricwlwm newydd a chyffrous hwn yn gontinwwm dysgu i blant 3 i 16 oed yng Nghymru.

Mae’r Cylch wedi ei gofrestru gydag AGC (Arolygiaeth Gofal Cymru) er mwyn gofalu am uchafswm o 18 o blant ar unrhyw un adeg.

Rydym yn lleoliad Cymraeg ac yn croesawu a chefnogi plant a theuluoedd o gefndir Di-Gymraeg. Trwy ein gweithgareddau rydym yn cynnig taith rwydd i’ch plentyn i addysg cyfrwng Cymraeg.

Cynhelir sesiwn Ti a Fi i blant o bob oedran ar fore dydd Mercher. Sesiwn anffurfiol ar gyfer rhieni/gwarchodwyr a phlant ifanc yw hwn, gyda chroeso cynnes i bawb!

Rydym yn gweithio’n agos gydag Ysgol Pontrobert, a leolir drws nesaf i’r Cylch, a gall y plant fynychu clwb brecwast yr ysgol cyn dod i’r sesiwn Cylch. Rydym hefyd yn darparu gofal dydd ar ddydd LLun a dydd Mawrth trwy'r Clwb Chwarae sy'n rhedeg tan 5:30y.p. ar gyfer plant 3-11. 

​

The happiness and safety of each child is a priority for Cylch Meithrin Pontrobert. We provide the best care possible in a friendly and homely atmosphere and we encourage and welcome children from all backgrounds. At the Cylch Meithrin your child will have the opportunity to enjoy the company of other children and learn through play with competent, friendly and enthusiastic staff.

We provide a stimulating and nurturing environment, building a solid foundation for children to progress confidently on to the next stage in their life.  Early Years Education is delivered by following the Curriculum for Wales, the new curriculum is a continuum of learning for children from 3 to 16 years of age. 

We are registered with CIW (Care Inspectorate Wales) to care for a maximum of 18 children at any one time.

We are a Welsh language setting and we welcome and support children and families from all non-Welsh speaking backgrounds. Our activities offer your child a smooth journey to Welsh-medium education enabling him/her to become bilingual. 

Every Wednesday morning we hold a Ti a Fi session for children of all ages. This is an informal parent and toddler session and everyone is welcome!

We also work closely with the Pontrobert School located next door, and on Cylch days children may attend their Breakfast before coming to Cylch. We can offer wrap-around care on a Monday and Tuesday through our Play Club which runs until 5:30p.m. for children aged 3-11.

bottom of page